Rhif y ddeiseb: P-06-1488

Teitl y ddeiseb:  Sefydlu ‘Cymdeithas Gofal’ i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng COVID Hir yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  Mae Cymru’n mynd i’r afael â gwaethygu afiechydon hirdymor oherwydd COVID Hir ymhlith plant a phobl sy’n gweithio a arferai fod yn iach. Yng Nghymru, mae mwy na 12,000 wedi marw gyda COVID. Mae cymaint â 300,000 yn brwydro yn erbyn COVID Hir. Mae teuluoedd yn colli darparwyr incwm. Mae sbytai o dan bwysau eithafol Mae absenoldebau mewn ysgolion wedi mwy na dyblu. Erbyn 2030, gallai 1 o bob 3 fod â COVID Hir

Rydym yn galw am ‘Gymdeithas Gofal’ i ddiogelu ein hiechyd a’n bywoliaeth.

Gwybodaeth ychwanegol - Cydrannau’r 'Gymdeithas Gofal'

1. Iechyd: Cyllid ar gyfer clinigau ac ymchwil COVID Hir

2. Cyfranogiad Economaidd: Addasiadau yn y gweithle fel oriau hyblyg, gweithio o bell, ac amddiffyniadau rhag gwahaniaethu.  Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol, i ymchwilio i sut y gallai cymorth ariannol rymuso pobl i gyfrannu at y gymdeithas, waeth beth fo'u statws iechyd.

3. Seilwaith: Gwella ansawdd aer mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai. Buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd i sbarduno twf economaidd, gan gynnwys ailhyfforddi’r rhai sy’n trosglwyddo o’u rolau cyfredol oherwydd COVID Hir.

Cefndir

Y Gymdeithas Gofal

Mae’r term "Cymdeithas Gofal" wedi‘i drafod mewn amryw gyd-destunau, yn enwedig mewn polisi cymdeithasol. Mae'n fodel cymdeithasol ac economaidd sy'n blaenoriaethu gofal fel gwerth sylfaenol mewn cymdeithas. Cyfeiria’r deisebydd at y term i bwysleisio pwysigrwydd polisïau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol a waethygir gan bandemig Covid-19. Mae ei gydrannau allweddol yn cynnwys gofal iechyd ac ymchwil, grymuso economaidd, a buddsoddi mewn seilwaith. 

Mae grwpiau eiriolaeth, gan gynnwys COVID hir Cymru - cangen Cymru o'r grŵp Long COVID Support, o dan arweiniad cleifion, yn cefnogi’r ddeiseb, gan alw am ymateb cynhwysfawr i'r argyfwng yng Nghymru.

COVID Hir

Cafodd dros 15,000 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 eu cofrestru yng Nghymru hyd at fis Ionawr 2025 (mae hyn yn cynnwys marwolaethau lle crybwyllwyd Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth, boed fel achos sylfaenol ai peidio).

Ar 5 Mawrth 2023, amcangyfrifwyd bod 108,000 o bobl yng Nghymru yn profi effeithiau hirdymor heintiau Covid, a elwir yn Covid Hir (mae'r ffigur hwn yn hunan-gofnodedig). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi amcangyfrif bod 2.9% o boblogaeth y DU yn profi Covid Hir hunan-gofnodedig.

Mae'r term Covid Hir yn disgrifio symptomau sy'n parhau, neu sy’n dechrau yn sgil haint Covid. Mae Covid yn glefyd fasgwlaidd difrifol sy'n gallu heintio pob prif organ a system, felly mae dros 200 o symptomau posibl. Mae'r rhain yn cynnwys materion niwrolegol fel problemau gyda’r cof a chanolbwyntio, anhwylderau hunanimiwn, blinder eithafol, a phroblemau cardiofasgwlaidd.

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Lansiodd Llywodraeth Cymru y rhaglen Adferiad (Recovery) i gefnogi pobl sy'n dioddef effeithiau tymor hir Covid-19, gan gynnwys Covid Hir, ym mis Mehefin 2021. Mae'r rhaglen Adferiad yn cynnwys llwybrau cleifion i gael diagnosis o Covid Hir ac asesu difrifoldeb y symptomau. Mae'n cynnig cynlluniau triniaeth a gwasanaethau adsefydlu er mwyn helpu i reoli symptomau fel diffyg anadl, blinder a niwl yr ymennydd, ac mae'n cynnig mynediad at dîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a seicolegwyr. Mae'r rhaglen yn darparu arweiniad ac adnoddau i helpu unigolion i reoli eu symptomau gartref.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn i gefnogi'r rhaglen yn 2021. Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd gynnydd mewn cyllid blynyddol ar gyfer gwasanaethau Adferiad, gydag £8 miliwn bellach yn cael ei ddyrannu’n barhaus i fyrddau iechyd. Bwriad y cynnydd yn y cyllid oedd galluogi byrddau iechyd i ehangu mynediad at wasanaethau a ariennir gan Adferiad i bobl â salwch ar ôl haint acíwt arall, gan gynnwys pobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia, yn ogystal â'r rhai sydd â symptomau corfforol parhaus, ond dim diagnosis wedi'i gadarnhau.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor hwn yn nodi sut y mae wedi blaenoriaethu cefnogaeth i gleifion Covid Hir ers dechrau'r pandemig:

Gofal iechyd ac ymchwil

§  Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio bod ei dull o gefnogi pobl sy'n byw gyda Covid Hir yn cyd-fynd â chanllawiau NICE ac mae’n amlygu bod £6.93 miliwn wedi'i ddyrannu i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i lywio dulliau polisi a thriniaeth. Mae'n amlinellu ei ddull o ddarparu gwasanaethau adsefydlu lleol, yn y gymuned, gyda mynediad at ofal arbenigol pan fo angen.

Grymuso economaidd

§  Dywed Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i gyflogwyr ddarparu addasiadau rhesymol i weithwyr â Covid Hir, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hefyd yn cyfeirio at ganllawiau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, sy’n cynghori cymorth hyblyg i staff y GIG sy'n dychwelyd i'r gwaith, gan gynnwys tâl salwch uwch. Mae ymateb y llywodraeth yn nodi bod budd-daliadau anabledd ar gyfer Covid Hir yn dod o dan awdurdodaeth llywodraeth y DU.

Gwelliannau seilwaith ac ansawdd aer

§  Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ganllawiau awyru newydd i sicrhau rheolaeth effeithiol ar yr haint mewn adeiladau ysbytai, gan ddatgan mai byrddau iechyd sy'n gyfrifol am oruchwylio awyru mewn ysbytai. Mae'n ychwanegu mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am awyru mewn ysgolion.

 

Camau gweithredu gan Senedd Cymru


Bu sawl dadl am Covid Hir yn y Senedd, a’r fwyaf diweddar oedd y ddadl fer, 'Covid hir: Datblygu dull gweithredu Cymru gyfan i fynd i'r afael ag argyfwng iechyd sy'n tyfu.' ar 11 Rhagfyr 2024.

Ar 22 Hydref 2024, cyflwynodd Adam Price AS gwestiwn ysgrifenedig [WQ94701]:

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sicrhau bod anghenion y cleifion mwyaf difrifol wael ag ME, gan gynnwys y rhai sydd â COVID hir sy'n bodloni meini prawf clinigol NICE difrifol/difrifol Iawn ME yn cael eu diwallu'n briodol?

Cafodd ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 31/10/2024

Mae'r rhaglen Adferiad, a sefydlwyd i ddechrau i gefnogi pobl â Covid hir, yn gwella’r gefnogaeth i bobl ag ME/CFS. Mae £8m o gyllid rheolaidd wedi'i ddyrannu i fyrddau iechyd ers mis Mawrth 2023 er mwyn ehangu mynediad at wasanaethau a ariennir gan Adferiad i bobl â chyflyrau hirdymor eraill y mae eu hanghenion adsefydlu ac adfer yn debyg i bobl â Covid Hir,  gan gynnwys ME/CFS, ac i barhau i ddatblygu ac ehangu gwasanaethau adsefydlu amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gyda chymorth llwybrau atgyfeirio i ofal eilaidd i'r rhai sydd ei angen.

Mae pob un o’r byrddau iechyd yn datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ofal rhagweithiol a thargedu adferiad ac adsefydlu, gan hyrwyddo hunanreolaeth - a hunanreolaeth â chymorth - drwy ddull tîm amlddisgyblaethol. Mae cydgynhyrchu yn ffactor hanfodol wrth ddatblygu gwasanaethau, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd, yn ystod y broses hon, ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd.

Mae cynlluniau'n mynd rhagddynt i gynnwys llwybrau ar gyfer ME/CFS a Covid hir yn y rhaglen llwybrau iechyd cymunedol sy'n cael ei goruchwylio gan yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd, Llwybrau Iechyd a Gofal. Mae llwybrau iechyd cymunedol yn cynnig gwybodaeth a gytunir yn lleol i glinigwyr i wneud y penderfyniadau cywir ynghyd â chleifion, ar adeg gofal.  Mae'r llwybrau wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer timau practisau cyffredinol, ond maent hefyd ar gael i arbenigwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.